Overcoming barriers for women in the workplace | Goresgyn rhwystrau i fenywod yn y gweithle
When: March 4, 2025
Where: Swansea, United Kingdom
REGISTER
Yn y sesiwn banel hon i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, byddwn yn clywed gan arbenigwyr o’r sector gwirfoddol a thu hwnt ar sut gallwn greu Cymru fwy cyfartal.
Ymunwch â ni i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 4 Mawrth 2025 yn Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe rhwng 11am ac 1.30pm. Byddwn yn cynnal trafodaeth banel i edrych ar rai o’r rhwystrau y mae menywod yn eu hwynebu yn y gweithle a sut gall mudiadau ddefnyddio arferion gorau i sicrhau cydraddoldeb. Bydd y drafodaeth banel yn cael ei dilyn gan ginio rhwydweithio.
Rydym yn falch iawn o ddweud y bydd gennym banelwyr o’r prif elusennau i fenywod yng Nghymru, Cymdeithas Menywod Duon yn Camu Allan (BAWSO), Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru (RhCM Cymru) a Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW). Bydd ein haelodau panel yn cynnwys:
Fflur Jones, Partner Rheoli Darwin Gray, sy’n arbenigo mewn cyfraith gyflogaeth
Rachel Joseph, enillydd gwobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn 2022 sy’n gwirfoddoli gyda *Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW)[AE1] yn codi ymwybyddiaeth o endometriosis ac anghydraddoldebau iechyd menywod
Dr Jessica Laimann, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru (RhCM Cymru) sy’n arwain gwaith polisi RhCM, gan yrru newid sy’n creu cyfle cyfartal ac awdurdod i bob menyw yng Nghymru
Daisy Namuddu, Rheolwr Ardal De-orllewin Cymru a Jumana Mohamed, Uwch Weithiwr Cymorth (sy’n arbenigo mewn menywod duon ac ethnig lleiafrifol) BAWSO
Nerys Evans, cyn Aelod o’r Senedd a Chyfarwyddwr Cavendish Cymru sydd hefyd yn fentor yn y cynllun Mentor Mums
Mae hwn yn gyfle gwych i unrhyw un sy’n gweithio ac yn gwirfoddoli yn y sector gwirfoddol neu rywun sy’n gweithio gyda’r sector gwirfoddol i ddod ynghyd a thrafod sut gallwn helpu i greu gweithleoedd mwy hygyrch a grymusol.
*Saesneg yn unig
In this panel session to mark International Women’s Day we’ll hear from experts from the voluntary sector and beyond on how we can create a more equal Wales.
Join us to celebrate International Women’s Day on 4 March 2025 at Swansea Building Society Arena from 11 am - 1.30 pm. We will be hosting a panel discussion to explore some of the barriers women face in the workplace and how organisations can use best practice to ensure equality. The panel discussion will be followed by a networking lunch.
We’re delighted to have panellists from leading Women’s charities in Wales, BAWSO, WEN Wales and FTWW. Our panel members include;
Fflur Jones, Managing Partner at Darwin Gray, who specialises in employment law
Rachel Joseph, the 2022 winner of the Young Volunteer of the Year Award who volunteers for Fair Treatment for the Women of Wales (FTWW) raising awareness of endometriosis and female health inequalities
Dr Jessica Laimann, Policy and Public Affairs Manager at Women’s Equality Network Cymru (WEN) who leads on WEN’s policy work, driving change that delivers equal opportunity and authority for all women in Wales
Daisy Namuddu, the Locality Manager for South West Wales and Jumana Mohamed, Senior Support Worker BME Specialist at BAWSO
Nerys Evans, former MS and Director of Cavendish Cymru who is also a mentor in the Mentor Mums scheme
This is a fantastic opportunity for anyone working and volunteering in the voluntary sector or working with the voluntary sector to come together and discuss how we can help create more accessible and empowering workplaces.
#IWD2025 | #AccelerateAction
Reference: 21013